Lleoliad:
Ar y safle - Ystafell Bwyllgora 5, Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Mehefin 2022
Amser:
11.30 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13093
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS James Evans AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd James Evans AS i'r Pwyllgor a diolchodd i Peter Fox AS am ei waith ar y Pwyllgor.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)202 - Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)203 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Etholiadau Senedd Ewrop (Diwygio a Dirymu) (y Deyrnas Unedig a Gibraltar) (Ymadael â'r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
4.2 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Presenoldeb yn y cyfarfod rhynglywodraethol ar 16 Mai
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
4.3 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020: Gwaharddiadau o Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad - Rheoliadau Plastigau Untro 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
4.4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyrau gan Weinidog yr Economi.
4.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Grŵp Rhyngweinidogol Gweinidogion Iechyd y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Gwladol at Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi: Adolygu Llawlyfr y Cabinet
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Gwladol at Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad.
5.2 Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Rhaglen a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfu i Gymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Mynediad at gyfiawnder: Crynodeb o'r gwaith ymgysylltu
Trafododd y Pwyllgor y crynodeb o’r dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’r gwaith grwpiau ffocws a gynhaliwyd gan Dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd ar fater mynediad at gyfiawnder yng Nghymru a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· cyhoeddi'r crynodeb;
· ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ofyn am eu barn am yr adroddiad.
8 Blaenraglen Waith
Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.